Dyn yn yr ysbyty ar ôl taro dafad yn Sir Gaerfyrddin

ambiwlans

Mae beiciwr modur mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty ar ôl taro dafad yn Sir Gaerfyrddin.

Roedd y dyn 45 oed o Gwm Tawe yn reidio beic ZX Kawasaki 1000 pan darodd yr anifail ar ffordd yr A4069 rhwng Llangadog a Brynaman.

Fe gafodd ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ar ôl y digwyddiad, a ddigwyddodd ychydig cyn 18:00 ddydd Sul.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio.