Cefnogwyr yn awyddus i weld gemau rhagbrofol Cwpan y Byd

Wales fans applaud the team after their defeat to Portugal Image copyright Getty Images
Image caption Cefnogwyr Cymru yn cymeradwyo'r tîm wedi'r gêm yn erbyn Portiwgal yn Euro 2016

Mae 10,000 o gefnogwyr wedi prynu tocynnau ar gyfer holl gemau cartref Cymru yn y rowndiau rhagbrofol ar gyfer Cwpan y Byd yn 2018.

Bydd y tocynnau yn rhoi mynediad i'r gemau yn erbyn Moldova, Georgia, Serbia, Awstria a Gweriniaeth Iwerddon.

Fe fydd y canran olaf o'r tocynnau sydd ar gael ar gyfer Clwb Cefnogwyr Cymru yn mynd ar werth ddydd Mawrth.

Dywed Ffederasiwn Cefnogwyr Pêl-droed Cymru fod y nifer o docynnau sydd eisoes wedi eu gwerthu yn arwydd da.

Yn ôl Paul Corkery o'r Ffederasiwn, mae'r gefnogaeth yn arwydd o lwyddiant Cymru yn Euro 2016, ond hefyd gallu'r Gymdeithas Bêl-droed i gadw prisiau yn isel.

"Mae'r ffaith fod 10,000 o gefnogwyr yn prynu tocynnau ar gyfer pum gêm ymhell o flaen llaw yn hynod galonogol, yn enwedig o ystyried nad yw rhai o'r gemau yn cael eu chwarae tan y flwyddyn nesa.

Mae'r tocynnau wedi cael eu gwerthu i aelodau o Glwb Cefnogwyr Cymru yn ôl eu hawliau ymaelodi.

Fe fydd gêm gyntaf Cymru yn y rowndiau rhagbrofol yn erbyn Moldova, ar 5 Medi yn Stadiwm Dinas Caerdydd.