Owain Doull yn ymuno â thîm Sky y tymor nesaf

Owain Doull Image copyright Getty Images

Mae Owain Doull yn dweud ei fod yn "brofiad swreal" wedi'r cadarnhad ei fod yn ymuno â thîm seiclo Sky y tymor nesaf.

Bydd Doull, sy'n 23 oed, yn gadael Team Wiggins ar ôl y Gemau Olympaidd.

Roedd Doull yn rhan o dîm buddugol Prydain ar y trac yn y gemau yn Rio, ac fe fydd yn troi'n reidiwr proffesiynol llawn amser yn 2017.

Dangosodd y Cymro gryn addewid ar y ffordd, trwy orffen yn drydydd yng nghystadleuaeth Taith Prydain 2015, pan oedd yn cystadlu fel aelod o dîm Wiggins.

'Arbennig'

"Mae bob amser wedi bod yn dipyn o freuddwyd i ymuno â thîm Sky," meddai Doull ar wefan swyddogol y tîm.

"Felly i fod yn mewn sefyllfa i ddechrau rasio dros y tîm, mae hynny ychydig yn swreal.

"Rydw i wedi cystadlu yn erbyn Sky yn rhai o'r rasys mwyaf, megis y Tour of Britain, a hynny i dîm Wiggins.

"Mae gweld sut y maent yn gweithredu yn rhywbeth eithaf arbennig. Dwi hefyd wedi bod yn gwylio fel cefnogwr, gan wylio digwyddiadau fel y Tour de France, a gweld sut mae'r seiclwyr yn mynd ati."

Dywedodd rheolwr Team Sky, Syr Dave Brailsford o Ddeiniolen: "Mae Owain wedi rhoi perfformiadau ardderchog ar y trac ac a'r ffordd yn gyson, rydym yn credu fod ganddo'r potensial i fod yn rhan bwysig o'r tîm."

Mae 'na ddau Gymro eisoes yn y tîm, sef Geraint Thomas a Luke Rowe.