Angladd plentyn pedair oed wedi tân yng Nghwm Tawe

Jac Davies

Fe fydd angladd bachgen pedair oed a gafodd ei ladd mewn tân mewn tŷ yng Nghwm Tawe yn cael ei gynnal yn ddiweddarach ddydd Mawrth.

Bu farw Jac Davies o ganlyniad i'r tân yn ei gartref yn Alltwen, ger Pontardawe ar 27 Gorffennaf.

Fe lwyddodd ei fam, Jennifer Davies, 28 oed, i ddianc gyda'i babi 11 mis oed, a'i merch Kelsey, chwech oed, tra cafodd ei mab Rieley, tair oed, ei achub.

Yn gynharach y mis hwn, cafodd cwest i farwolaeth Jac ei agor a'i ohirio.