Owen yn serennu ym muddugoliaeth Morgannwg dros Gaerwrangon

Owen Morgan
Image caption Owen Morgan oedd yr arwr i Forgannwg yn New Road

Llwyddodd Morgannwg i guro Sir Caerwrangon o bum wiced yn eu gêm bencampwriaeth wedi i Owen Morgan sgorio 103 heb fod allan.

Fe wnaeth Morgan rannu partneriaethau o 59 gyda Jacques Rudolph, 88 gyda Will Bragg a 99 gydag Aneurin Donald cyn cyrraedd 100 ar bêl olaf y gêm.

Dechreuodd Morgannwg ar 16-1 ar ddiwrnod olaf y chwarae yn New Road, gyda tharged o 277 i ennill.

Roedd yr ymwelwyr yn araf i ddechrau, ond fe roddodd Bragg a Donald fwy o egni i'r ymwelwyr yn y prynhawn.

Joe Leach berfformiodd orau i'r tîm cartref, gan gymryd wyth wiced am 108 o rediadau.

Ond nid oedd yn ddigon i achub ei dîm, wrth i Forgannwg sicrhau'r fuddugoliaeth gyda bron i 18 pelawd yn weddill.