Pryder y gall aelodau UKIP yng Nghymru adael y blaid

Smart
Image caption Fe all aelodau UKIP yng Nghymru adael y blaid, meddai Chris Smart

Mae cadeirydd UKIP yng Nghymru yn bryderus y gall aelodau adael y blaid yn dilyn y cecru mewnol diweddar.

Yn ôl Chris Smart, mae yna deimlad bod UKIP "bron yn datod" oherwydd ffraeo o fewn ei rhengoedd.

Mae anghytuno wedi bod ynghylch arweinydd y blaid yng Nghymru, Nathan Gill, yn gwneud dwy swydd, a hefyd yr ornest i olynu Nigel Farage.

Bydd yr ymgeiswyr yn y ras yng Nghasnewydd nos Fercher ar gyfer hustyngau.

Ond ni fydd y ceffyl blaen, Aelod Senedd Ewrop dros De Ddwyrain Lloegr, Diane James, yn cymryd rhan.

Yr ymgeiswyr eraill yw cynghorydd Swydd Caergrawnt Lisa Duffy, ASE Gorllewin Canolbarth Lloegr Bill Etheridge, Elizabeth Jones sy'n aelod o bwyllgor gwaith y blaid a'r cyn gynghorydd Ceidwadol Philip Broughton.

Dyw'r ASE Steven Woolfe, oedd yn un o'r ffefrynnau i olynu Mr Farage, ddim ar y rhestr o ymgeiswyr ar ôl cyflwyno ei bapurau enwebu 45 munud yn hwyr.

Image copyright Getty Images
Image caption Mae pump yn y ras i olynu Nigel Farage

Bydd aelodau'r blaid yn derbyn y papurau pleidleisio ar 1 Medi gyda'r canlyniad i'w gyhoeddi bythefnos yn ddiweddarach.

Er na fydd Ms James yn cymryd rhan nos Fercher, bydd hi yng Nghasnewydd ar gyfer digwyddiad 'Cyfarfod Diane' wythnos i ddydd Gwener.

Mae disgwyl i aelodau UKIP yng Nghymru hefyd bleidleisio ynghylch a ddylai Mr Gill gael parhau yn Aelod Cynulliad ac Aelod o Senedd Ewrop.

'Blin'

Mae Mr Smart o'r farn y dylai Mr Gill ymddiswyddo o un o'r ddwy rôl, ac yn dweud bod y ffrae yn creu problemau: "Dyw'r cecru mewnol ddim yn dda i neb.

"Fe welais i rai o'n haelodau ddoe sy'n flin iawn iawn am yr hyn sy'n mynd ymlaen oherwydd eu bod wedi ymuno â UKIP i adael yr UE.

"Wrth gwrs, mae hynny wedi digwydd, a nawr mae pethau'n ymddangos fel eu bod bron yn datod.

"Mae rhai yn rhoi'r bai ar Nathan Gill am beidio gwneud beth wnaeth addo cyn yr etholiad.

"Mae'n bosib y bydd rhai pobl yn gadael y blaid a fyddai'n biti ac efallai mynd yn ôl i'w hen wreiddiau.

"Mewn llawer o achosion y blaid Geidwadol, ond mewn rhai achosion Llafur hefyd.

"Ond rwy hefyd yn gobeithio y gall arweinydd newydd, os y gallen ni sortio pethau yng Nghymru, ddatrys hyn."

Yn y gorffennol wedi amddiffyn ei allu i barhau i wneud ei ddwy swydd.