Wrecsam 1-0 Solihull Moors

mark Image copyright Rex Features
Image caption Mark Carrington sgoriodd y gôl hwyr i Wrecsam

Mae Wrecsam wedi sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf adref o'r tymor ar ôl curo Solihull Moors.

Fe sgoriodd Mark Carrington gôl hwyr i dîm Gary Mills yn y trydydd munud o amser ychwanegol ar y Cae Ras i gipio'r tri phwynt.

Fe aeth John Rooney a Hamza Bencherif yn agos i Wrecsam cyn i Carrington gipio'r fuddugoliaeth.

Dyma'r gêm gyntaf i Solihull golli'r tymor hwn ers cael dyrchafiad.