Luton 2-1 Casnewydd

Marlon Jackson of Newport goes close with a diving header Image copyright Huw Evans picture agency

Mae Casnewydd wedi colli yn Luton gyda gôl hwyr yn golygu bod y tîm cartref yn parhau ar frig Ail Adran Cynghrair Lloegr.

Fe sgoriodd Cameron McGeehan ddwy gic o'r smotyn i dîm Nathan Jones i sicrhau'r fuddugoliaeth.

Ar ôl i McGeehan sgorio'r gyntaf i Luton, fe wnaeth Jennison Myrie-Williams y sgôr yn gyfartal ar ôl cic gornel.

Fe gafodd Johnny Mullin gerdyn coch i'r tîm cartref, ond fe wnaeth cic o'r smotyn hwyr gan McGeehan gipio'r fuddugoliaeth i Luton.