Tân mewn bloc o fflatiau wedi'i gynnau'n fwriadol

Tân

Mae'r gwasanaethau brys wedi dweud bod tân mewn bloc o fflatiau yn Rhondda Cynon Taf nos Fawrth wedi'i gynnau'n fwriadol.

Cafodd pump o bobl eu hachub o'r adeilad tri llawr yn Rhydyfelin - dau ohonynt drwy ffenest gydag ysgolion.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu bod wedi cael eu galw i'r digwyddiad am 22:20.

Yn ôl y gwasanaethau brys, roedd y tân wedi cael ei gynnal ar risiau'r adeilad yn Rhydyfelin.

Mae ymchwiliad wedi'i lansio ar y cyd rhwng yr heddlu a'r gwasanaeth tân i ddod o hyd i'r rhai sy'n gyfrifol am y digwyddiad.