Admiral yn gweld cynnydd o 4% yn ei elw

Tŷ Admiral Image copyright Admiral

Mae cwmni yswiriant Admiral wedi cyhoeddi ei bod wedi gweld cynnydd o 4% yn ei elw yn y chwe mis diwethaf.

Dywedodd yr unig gwmni o Gymru sy'n rhan o'r FTSE 100 bod ei elw wedi cynyddu i £193m yn y chwe mis hyd at 30 Mehefin - ei ganlyniadau gorau erioed.

Llwyddodd y grŵp, sydd â swyddfeydd yn Abertawe, Casnewydd a Chaerdydd, i ychwanegu 217,000 o gwsmeriaid yswiriant moduro, er y cynnydd mewn prisiau.

Dywedodd prif weithredwr y cwmni, David Stephens: "Mae'r chwe mis diwethaf wedi dangos cryfder parhaol busnes yn y DU."