Gemau Olympaidd Rio: Aur i Hannah Mills yn yr hwylio

Hwylio Image copyright Getty Images

Mae Hannah Mills wedi ennill medal aur yn yr hwylio yn y Gemau Olympaidd, gan olygu bod y Cymry bellach wedi ennill tair medal aur yn Rio.

Dim ond angen gorffen oedd Mills a'i phartner Saskia Clark yn ras olaf y dosbarth 470, wedi iddyn nhw sicrhau'r aur i bob pwrpas ddydd Mawrth. Cafodd y ras ei gohirio ddydd Mercher o achos yr amodau tywydd, ond fe groesodd y ddwy y llinell derfyn ddydd Iau gan sicrhau'r fuddugoliaeth.

Mae Mills, 28 oed o Gaerdydd, a Clark, sy'n 36 o Essex, wedi mynd gam ymhellach na'u medal arian yng Ngemau Llundain yn 2012.

"Does gen i ddim geiriau i ddisgrifio'r peth, meddai Mills. "Alla i ddim credu'r peth."

"Rydyn ni wedi hwylio'n anhygoel. Mae hi wedi bod yn farathon o ddigwyddiad."

Jo Aleh a Polly Powrie o Seland Newydd gafodd y fedal arian, a Helene Defrance a Camille Lecointre o Ffrainc ddaeth yn drydydd gan sicrhau'r fedal efydd.

Image copyright Getty Images

Rio nawr yw'r Gemau Olympaidd mwyaf llwyddiannus erioed i'r Cymry.

Hyd yn hyn, maen nhw wedi ennill tair medal aur a chwe medal arian.

Ond mae gobaith y bydd mwy ar y ffordd hefyd, gyda Jade Jones yn cystadlu yn y Taekwondo ddydd Iau gan geisio amddiffyn y fedal aur wnaeth hi ei ennill yng Ngemau Llundain.

Mae dwy Gymraes arall - Non Stanford a Helen Jenkins - ymysg y ffefrynnau ar gyfer y treiathlon ddydd Sadwrn, a bydd Seren Bundy-Davies yn ceisio helpu'r ras gyfnewid 4x400m i gyrraedd y podiwm hefyd.

Image copyright PA
Image caption Mae Hannah Mills (dde) a Saskia Clark wedi gwella ar eu medal arian o Gemau Llundain yn 2012
Image caption Ffrindiau a theulu Hannah Mills yn dathlu yng Nghaerdydd