Teyrnged i'r cwpl a fu farw yn dilyn tân yn Neganwy

Parc Gorllewin Gannock Image copyright Google
Image caption Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Barc Gorllewin Gannock tua 07:45 fore Mawrth

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i'r cwpl oedrannus a fu farw yn dilyn tân yn eu cartref yn Neganwy ddydd Mawrth.

Roedd Ted Hocknell a'i wraig Lucy yn arfer cadw busnes gwerthu dodrefn yn Llandudno.

Dywedodd ffrind i'r teulu, Mr Ian Turner: "Roedd Ted yn gymeriad a hanner ac ro'n i wedi ei adnabod am sawl blwyddyn."

Ychwanegodd fod Mr Hocknell wedi ei anrhydeddu gan lywodraeth Rwsia am ei wasanaeth yr yr Ail Ryfel Byd, pan oedd yn rhan o gonfois y llynges fasnachol oedd yn cludo arfau, bwyd a nwyddau i'r wlad ar draws Môr yr Iwerydd yn y frwydr yn erbyn Hitler.

"Roedd yna seremoni fawr 'chydig yn ôl yng Nghastell Bodelwyddan pan wnaeth Ted dderbyn ei fedal gan Lywodraeth Rwsia.

"Roedd o a Lucy mor ffyddlon i'w gilydd - mae'n ffordd mor drist i'w colli."

Fe gafodd y diffoddwyr eu galw am 07:45 fore ddydd Mawrth, a chredir mai nam trydanol oedd yn gyfrifol am y tân.

Dywedodd Stuart Millington, rheolwr diogelwch gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Yn anffodus nid oedd gan y perchnogion larymau mwg wedi eu gosod - ac fe allai hynny fod wedi eu hachub."

Straeon perthnasol