Clerigwr radical 'heb ymddangos' yng Ngŵyl y Gelli

florence
Image caption Ni wnaeth Anjem Choudary ymddangos yng Ngŵyl y Gelli, meddai Peter Florence

Mae cyfarwyddwr gŵyl lenyddol fwyaf Cymru wedi protestio am adroddiadau sy'n honni yn anghywir bod clerigwr radical wedi ymddangos yno.

Mae Peter Florence, sy'n gyfrifol am Ŵyl y Gelli ym Mhowys, wedi trydar ei wrthwynebiad i'r Sun a'r Independent ar ôl i Anjem Choudary gael ei ddedfrydu am wahodd cefnogaeth i'r Wladwriaeth Islamaidd.

Dywedodd Mr Florence bod y clerigwr wedi ymddangos mewn gŵyl arall, sydd hefyd wedi cael ei chynnal yn Y Gelli.

Bydd Choudary a dyn arall, Mohammed Mizanur Rahman, yn cael eu dedfrydu mis nesa'.

Fe ysgrifennodd Mr Florence: "PLIS fedrwch chi gywiro yn syth adroddiadau bod Choudary wedi ymddangos yng Ngŵyl y Gelli. Wnaeth o ddim.

"Roedd yn westai i Hilary Lawson a'i ŵyl How The Light Gets In.

"Bydd y rheiny sy'n mynd i'r Gelli yn ymwybodol ein bod ni ar asgell Christopher Hitchens o ran agwedd i eithafiaeth Islamaidd... o bosib, nid yw eich darllenwyr."

Image copyright PA
Image caption Mae Anjem Choudary wedi ei gael yn euog o wahodd cefnogaeth i'r Wladwriaeth Islamaidd

Bu protestiadau yn 2011 pan gafodd Choudary ei wahodd i How The Light Gets In, digwyddiad cerddorol ac athroniaeth.

Cafodd Mr Lawson ei ddyfynnu ar y pryd yn dweud: "Dydyn ni ddim yn cymeradwyo barn unrhyw un o'n siaradwyr.

"Dydyn ni heb roi llwyfan i Anjem Choudary gyflwyno ei farn heb gael ei herio...ac rydym yn annog unrhyw un sy'n ystyried ei farn yn un annerbyniol i ddatgan eu barn a gwneud eu hachos."

Cafodd Choudary a Rahman eu cael yn euog o wahodd cefnogaeth i'r Wladwriaeth Islamaidd a bydden nhw'n cael eu dedfrydu mis nesa'.

Cafodd y ddau eu herlyn 28 Gorffennaf, ond dim ond dydd Mawrth oedd y wasg yn cael cyhoeddi'r dyfarniad wedi i achos arall ddod i ben yn Llys yr Old Bailey.