Caerdydd 2-1 Blackburn Rovers

Shane Duffy Image copyright Rex Features
Image caption Mae Shane Duffy nawr wedi sgorio tair gôl i'w rwyd ei hun y tymor hwn, ar ôl iddo sgorio yn erbyn Wigan hefyd

Cafodd amddiffynnwr Blackburn, Shane Duffy, noson i'w hanghofio ar ôl sgorio yn ei rwyd ei hun ddwywaith wrth i'w dîm wynebu Caerdydd yn y Bencampwriaeth.

Aeth yr Adar Gleision ar y blaen o fewn 20 munud diolch i goliau Duffy.

Rhoddodd Danny Graham obaith i'r ymwelwyr gan rwydo gyda 10 munud yn weddill.

Ond aeth pethau o ddrwg i waeth i Duffy a Blackburn pan gafodd gerdyn coch yn eiliadau olaf y gêm ar ôl cael ail gerdyn melyn.

Llwyddodd amddiffyn Caerdydd i aros yn gadarn am weddill y gêm i sicrhau buddugoliaeth am y tro cyntaf y tymor hwn.