A55: Gyrrwr wedi marw ar ôl gwrthdrawiad

Heddlu

Mae gyrrwr wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd ar brif ffordd y gogledd ger Llanfairfechan.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar ffordd yr A55 am 19:15 nos Fercher.

Bu farw gyrrwr car Nissan Micra yn y fan a'r lle yn dilyn y gwrthdrawiad gyda lori.

Roedd y ffordd ar gau am rhai oriau, ac mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth.