Medal Olympaidd ar y ffordd i Jade Jones

Jade Jones Image copyright Getty Images

Mae Jade Jones wedi ennill cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth 57 cilogram y taekwondo yn y Gemau Olympaidd.

Llwyddodd yr ymladdwraig o'r Fflint i drechu Nikita Glasnovic o Sweden o 9-4 yn y rownd gynderfynol.

Mae hynny wedi sicrhau y bydd hi'n dychwelyd o Rio gydag o leiaf medal arian.

Fe fydd hi nawr yn ymladd yn erbyn Eva Calvo Gomez o Sbaen am 02.00 fore Gwener i weld a fydd hi'n cipio'r fedal aur.

Jade Jones sydd ar frig rhestr detholion y byd yn ei champ ar hyn o bryd, a hi gipiodd y fedal aur yng Ngemau Olympaidd Llundain yn 2012.

Mae'r Cymry eisoes wedi ennill naw medal yn y Gemau yn Rio eleni, gyda'r diweddaraf yn mynd i'r hwylwraig Hannah Mills a'i phartner Saskia Clarke.