Pêl-droed: Gwerthu 16,000 o docynnau Cwpan y Byd

Cymru

Mae bron i 6,000 o docynnau ychwanegol i wylio gemau cartref rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2018 wedi eu prynu mewn 48 awr.

Aeth y llwyth olaf o docynnau i wylio carfan Chris Coleman yn ceisio cyrraedd y bencampwriaeth yn Rwsia ar werth ddydd Mawrth.

Hyd at ddydd Llun, roedd 10,000 o docynnau ar gyfer y pum gêm gartref wedi eu gwerthu, ac mae'r nifer sydd nawr wedi eu gwerthu bron yn 16,000.

Bydd Cymru'n wynebu Moldova, Georgia, Serbia, Awstria a Gweriniaeth Iwerddon yn eu hymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd.

Mae'r gêm gyntaf yn erbyn Moldova ar 5 Medi yn Stadiwm Dinas Caerdydd, sy'n dal 33,280 o bobl.

Fe wnaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru werthu 12,400 o docynnau tymor ar gyfer yr ymgyrch i gyrraedd rowndiau terfynol Euro 2016.

Mae Coleman wedi cyhoeddi'n barod mai hon fydd ei ymgyrch olaf fel rheolwr y garfan genedlaethol - os fydd Cymru'n cyrraedd y rowndiau terfynol neu beidio.

Cafodd y tocynnau eu gwerthu i aelodau mewn pedwar cam, yn dibynnu ar ba mor gymwys oedd yr aelodau i dderbyn tocynnau.