Gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd yn cau ffordd ym Mhowys

heddlu

Mae ffordd ym Mhowys wedi'i chau i'r ddau gyfeiriad yn dilyn gwrthdrawiad difrifol rhwng dau gerbyd.

Dywedodd Heddlu Dyfed Powys bod traffig i'r ddau gyfeiriad wedi dod i stop ar yr A483, rhwng ffordd y B4386 (Aber-miwl) a'r B4385 (Garthmyl).

Mae'r oedi yn effeithio teithwyr rhwng Y Drenewydd a'r Trallwng, ac mae arwyddion dargyfeirio wedi'u gosod.

Does dim manylion wedi cael eu cyhoeddi ynglŷn ag unrhyw anafiadau.