Rhybuddion llifogydd mewn grym i orllewin Cymru

Tonnau

Mae nifer o rybuddion am lifogydd posib mewn grym ar gyfer ardaloedd o orllewin Cymru dros y penwythnos.

Mae'r rhybuddion ar gyfer arfordiroedd siroedd Penfro, Ceredigion a Chaerfyrddin, Bae Abertawe ac arfordir penrhyn Gwyr.

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru bod disgwyl llanw uchel rhwng 18:00 ddydd Gwener a 12:00 ddydd Llun 22 Awst.

Gall wyntoedd cryf achosi tonnau mawr, a gall hynny arwain at lifogydd mewn ardaloedd arfordirol.