Rhybudd am wyntoedd cryfion mewn grym ar draws Cymru

Tywydd Image copyright Y Swyddfa Dywydd

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio y gall gwyntoedd o hyd at 60mya daro'r rhan fwyaf o Gymru ddydd Sadwrn.

Mannau ar hyd yr arfordir sy'n wynebu'r gwyntoedd cryfaf, ac mae hyn hefyd wedi arwain at rybudd o lifogydd oherwydd y llanw.

Mae rhybudd melyn mewn grym ar gyfer pob awdurdod yng Nghymru o 02:00 nes 21:00 ddydd Sadwrn.

Ychwanegodd y Swyddfa Dywydd eu bod hefyd yn disgwyl glaw trwm mewn rhai mannau.

Mae gŵyl gerddoriaeth Glass Butter Beach yn Abersoch wedi canslo rhaglen ddydd Sadwrn oherwydd y tywydd garw.