Myfyrwyr Ceredigion yn creu cofeb i gofio'r rhyfel mawr

Myfyrwyr Hyfforddiant Ceredigion Image copyright Hyfforddiant Ceredigion

Mae myfyrwyr mewn coleg yng Ngheredigion wedi cael eu dewis i fod yn rhan o brosiect rhyngwladol i greu cofeb i'r Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae'r grŵp o chwech, rhwng 16 a 18 oed, yn astudio yng Nghanolfan Hyfforddiant Ceredigion yn Aberystwyth.

Bydd pabi 23 troedfedd (7m), 12 tunnell, yn cael ei osod ym mynwent ryfel Langemark yng Ngwlad Belg.

Mae'n cael ei wneud gan ofaint a ffariars o bob rhan o'r byd.

Dywedodd Dai Price, ymgynghorydd hyfforddi yng Nghanolfan Hyfforddiant Ceredigion: "Rydym yn falch iawn ac yn ei gweld yn anrhydedd i fod yn rhan o'r prosiect gwych hwn.

"Mae'r bobl ifanc sy'n gweithio ar gynhyrchu'r pabi wedi cael cyfle unwaith mewn oes i helpu i goffáu'r rhai a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf ac rwy'n siŵr bod eu cyfraniad yn rhywbeth y byddant yn ei gofio am byth."