Ymgynghoriad ar saethu ffesantod ar dir CNC

Ffesant Image copyright Thinkstock

Mae ymgynghoriad cyhoeddus ar fin dechrau ar ddyfodol saethu adar ar dir sy'n eiddo i Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

Mae'n rhan o adolygiad i saethu ar ystadau cyhoeddus yng Nghymru - mae rhai saethiadau ffesantod yn digwydd ar dir cyhoeddus ar draws canolbarth a de Cymru.

Yn ôl ymgyrchwyr, mae hi'n "hanfodol" bod CNC yn caniatáu i arbenigwyr annibynnol a'r cyhoedd roi eu barn.

Dywedodd y Gymdeithas Saethu a Chadwraeth Brydeinig (BASC) eu bod "wedi'u synnu" gyda'r ymgynghoriad.

'Cyfraniad sylweddol'

Dywedodd cyfarwyddwr cadwraeth BASC, Tim Russell: "Mae'r rhai sy'n ymwneud â saethu yn darparu gwaith cadwraethol gwirfoddol sydd gyfwerth â 490 o swyddi llawn amser.

"Mae BASC, felly, yn credu bod saethu yn gwneud cyfraniad sylweddol i'r ystadau cyhoeddus.

"Rydym yn synnu â'r adolygiad, oherwydd bod pobl sy'n saethu ar yr ystâd gyhoeddus yng Nghymru yn talu i wneud hynny."

Image copyright Getty Images
Image caption Mae'r ymgynghoriad yn rhan o adolygiad i saethu ar ystadau cyhoeddus yng Nghymru

Mae BBC Cymru wedi gweld llythyr gan ysgrifennydd materion gwledig Llywodraeth Cymru, Lesley Griffiths sy'n dweud y bydd y prif swyddog milfeddygol yn cael ei ymgynghori.

Dywedodd llefarydd ar ran elusen Cymorth i Anifeiliaid ei bod yn "hurt" nad yw CNC wedi gofyn am farn y cyhoedd ar y mater yn y gorffennol.

"Ni wnaeth pobol Cymru dangos diddordeb yn y mater oherwydd bod yr hyn sydd wedi bod yn digwydd wedi bod yn guddiedig - sydd yn anfaddeuol o ystyried fod y tir yn perthyn iddyn nhw," meddai'r llefarydd.

"Mae'n hanfodol bod CNC yn caniatáu i arbenigwyr annibynnol, yn ogystal â phartïon sydd â diddordeb, a'r cyhoedd fel rhanddeiliaid, i gymryd rhan yn y broses adolygu."

Dywedodd pennaeth rheoli adnoddau naturiol CNC, Ruth Jenkins: "Byddwn yn ymgynghori'n gyhoeddus ar ein polisi ar saethu hamdden ac ar hyn o bryd rydym yn cwblhau sgôp yr arolwg a chasglu tystiolaeth i lywio ein cynigion ymgynghori."

Yn ôl BASC, mae'r diwydiant saethu gwerth £64m i Gymru, ac yn cefnogi bron i 2,500 o swyddi llawn amser.