Ymchwiliad wedi i ddynas farw mewn tân yn y Rhondda

rhondda Image copyright Google

Mae'r heddlu yn ymchwilio i farwolaeth sydyn dynes yn dilyn tân yn Rhondda Cynon Taf.

Cadarnhaodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru fod dynes wedi marw ar ôl y tân mewn tŷ yng Nghwmparc, Treorci, ychydig cyn 12:00 ddydd Gwener.

Fe lwyddodd y diffoddwyr i gael y tân dan reolaeth yn fuan ar ôl cyrraedd y tŷ.

Mae achos y tân yn anhysbys ac mae'r gwasanaeth tân a'r heddlu yn parhau i ymchwilio.