Beiciwr yn yr ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad yn Sir Caerffili

pengam Image copyright Google

Mae beiciwr wedi cael ei gludo i'r ysbyty gyda difrifol yn dilyn gwrthdrawiad â cherbyd yn Sir Caerffili.

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar Heol Commercial, Pengam, am oddeutu 05:25 ddydd Gwener.

Dywedodd Heddlu Gwent fod y dyn wedi ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.

Fe gafodd dyn 40 oed o Pengam ei arestio ar amheuaeth o achosi anaf difrifol trwy yrru'n beryglus, ac yna ei ryddhau ar fechnïaeth.