Tywydd garw: Gŵyl wedi'i chanslo am ddiwrnod

GBB

Mae gŵyl gerddoriaeth tri diwrnod yng ngogledd Cymru wedi canslo rhaglen ddydd Sadwrn oherwydd gwyntoedd cryfion a glaw trwm.

Roedd gŵyl Glass Butter Beach yn wreiddiol i fod i gael ei chynnal o ddydd Gwener i ddydd Sul yn Abersoch.

Ond mae trefnwyr wedi canslo'r digwyddiad ddydd Sadwrn oherwydd "rhesymau iechyd a diogelwch".

Ddydd Gwener, dywedodd y trefnwyr y byddai oedi o ran agor y prif lwyfan oherwydd y tywydd.

Image copyright AFP
Image caption Roedd Wolf Alice yn un o'r artistiaid oedd i fod i berfformio ddydd Sadwrn

Mae disgwyl i'r ŵyl ailagor ddydd Sul, a bydd tocynnau dydd Sadwrn hefyd yn gymwys ddiwrnod yn ddiweddarach.

Mae rhybudd melyn ar gyfer gwyntoedd cryf, a mannau arfordirol fydd yn wynebu'r gwaethaf o'r tywydd garw.