Gwrthdrawiad angheuol rhwng tri char yng Ngwynedd

A496 Image copyright Google
Image caption Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A496 yng Nghaerdeon rhwng Bontddu a Bermo

Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng tri char yng Ngwynedd.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A496 yng Nghaerdeon rhwng Bontddu a Bermo am 07:25 fore Sadwrn.

Dywedodd yr heddlu bod tri char yn y gwrthdrawiad - Citroen arian, Ford Fiesta arian a Ford Fiesta glas.

Bu farw gyrrwr y Citroen yn y digwyddiad a chafodd yrrwr y Ford glas eu cymryd i Ysbyty Gwynedd Bangor gyda man anafiadau.

Mae Heddlu'r Gogledd wedi apelio i unrhyw dystion gysylltu â'r llu trwy ffonio 101.