Dyn mewn cyflwr difrifol ar ôl cael ei daro gan gar

Morrisons Glyn Ebwy Image copyright Google
Image caption Cafodd y dyn ei daro gan y car ym maes parcio Morrisons nos Wener

Mae dyn 20 oed mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty ar ôl cael ei daro gan gar mewn maes parcio archfarchnad yng Nglyn Ebwy.

Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad ym maes parcio Morrisons yn y dref ychydig wedi hanner nos, nos Wener.

Fe gafodd y dyn, o'r Cwm, ei gymryd i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, ble mae'n parhau mewn cyflwr difrifol iawn.

Dywedodd Heddlu Gwent bod dyn lleol arall 20 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi anafiadau difrifol trwy yrru'n beryglus mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

Mae bellach wedi'i ryddhau ar fechnïaeth ac mae'r heddlu'n annog unrhyw dystion i gysylltu â'r llu gan alw 101.