Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 0-0 Eastleigh

Gary Mills Image copyright Getty Images
Image caption Rheolwr Wrecsam, Gary Mills

Fe wnaeth Eastleigh ddigon i ennill pwynt yn Wrecsam yng ngêm gyntaf Ronnie Moore fel eu rheolwr newydd.

Y tîm cartref gafodd y gorau o'r hanner cyntaf, ond heb unrhyw lwyddiant yn torri trwy amddiffyn Eastleigh.

Fe wnaeth golwr yr ymwelwyr, Ross Flitney arbediad da o ergyd John Rooney cyn i Callum Powell fethu'r targed gyda'i ergyd ef.

Roedd hi'n ail hanner di-fflach, gydag anaf i'r amddiffynnwr Curtis Tilt yn bryder ychwanegol i Wrecsam.