Adran 2: Casnewydd 1-1 Crewe

Mark Randall Image copyright Huw Evans picture agency

Llwyddodd Casnewydd i achub pwynt yn erbyn Crewe Alexandra wrth i Sean Rigg sgorio ei gôl gyntaf i'r clwb ers ymuno yn yr haf.

Yr ymwelwyr ddechreuodd orau, wrth i Alex Kiwomya eu rhoi ar y blaen yn yr hanner cyntaf.

Ond roedd y tîm cartref yn gyfartal gyda 10 munud yn weddill wrth i Rigg benio i'r rhwyd o groesiad Jazzi Barnum-Bobb.

Er hynny, gallai fod wedi bod cymaint gwell i Gasnewydd, wrth i Marlon Jackson fethu cyfle da yn y munudau olaf.