Y Bencampwriaeth: Fulham 2-2 Caerdydd

Paul Trollope Image copyright Getty Images

Fe wnaeth Fulham achub pwynt yn erbyn Caerdydd diolch i gôl hwyr gan Kevin McDonald.

Ryan Sessegnon roddodd y tîm cartref ar y blaen, wrth i'r amddiffynnwr 16 oed rwydo heibio David Marshall o groesiad Sone Aluko.

Ond aeth Caerdydd ar y blaen gan sgorio ddwywaith mewn chwe munud yng nghanol yr ail hanner, gyda'r goliau gan Joe Ralls ac Anthony Pilkington.

Llwyddodd i Fulham frwydro eu ffordd yn ôl i'r gêm, ac fe gafon nhw eu gwobrwyo wrth i McDonald eu gwneud hi'n gyfartal gyda phedwar munud yn weddill.