Uwch Gynghrair Lloegr: Abertawe 0-2 Hull

Abel Hernandez Image copyright Getty Images
Image caption Abel Hernandez yn sgorio ail gôl Hull yn y munudau olaf

Fe wnaeth Hull sgorio dwy gôl hwyr yn Abertawe wrth i'r Elyrch gael eu trechu yn eu gêm gartref cyntaf o'r tymor.

Bu bron i Gylfi Sigurdsson sgorio gôl gyntaf y gêm ond iddo daro'r traws, wrth i'r tîm cartref gael y gorau o'r hanner cyntaf.

Abertawe oedd y tîm gorau am y rhan fwyaf o'r ail hanner hefyd cyn i'r eilydd Shaun Maloney rwydo i'r ymwelwyr.

Llwyddodd Abel Hernandez i ychwanegu ail yn y munudau olaf i sicrhau'r ail fuddugoliaeth yn olynol i Hull.