Grey-Thompson: 'Rio angen ysbrydoli mwy i gymryd rhan'

Tanni Grey-Thompson Image copyright Getty Images
Image caption Fe wnaeth Tanni Grey-Thompson ennill medalau aur mewn pedwar Gemau Paralympaidd

Mae angen defnyddio llwyddiant y Gemau Olympaidd i annog y cyhoedd yng Nghymru i gymryd rhan mewn chwaraeon yn fwy aml, yn ôl athletwr Paralympaidd mwyaf llwyddiannus Cymru.

Fe wnaeth y Cymry yn Rio ennill cyfanswm o 10 medal - eu canlyniad gorau erioed mewn Gemau Olympaidd.

Ond dywedodd y Farwnes Tanni Grey-Thompson bod Cymru yn wlad "sy'n hoffi gwylio chwaraeon" yn hytrach na chymryd rhan.

Yn siarad ar raglen Sunday Supplement Radio Wales, dywedodd y Farwnes Grey-Thompson bod pobl yn cymryd rhan mewn chwaraeon ar rai adegau'n unig.

Defnyddiodd Wimbledon fel esiampl, gan ddweud ei fod yn ysbrydoli pobl i brynu racedi, ond bod cadw eu diddordeb yn y gamp am weddill y flwyddyn yn anodd.

Image copyright Getty Images
Image caption Mae Jade Jones yn un o bedwar o Gymru sydd wedi ennill medal aur yn Rio

"Mae pobl yn ein galw yn wlad sy'n hoff o gymryd rhan mewn chwaraeon, ond rwy'n meddwl mai gwlad sy'n hoffi gwylio chwaraeon ydyn ni," meddai.

"Ond ni allwn ni newid hynny a chael pobl i gymryd rhan heb fuddsoddiad mewn llefydd fel ysgolion."

Dywedodd AC Dwyrain Casnewydd, John Griffiths bod "arian yn ennill medalau" a bod buddsoddi arian mewn athletwyr elît yn ysbrydoli pobl eraill i gymryd rhan.

Ond ychwanegodd bod rhaid cydbwysedd rhwng yr arian sy'n mynd tuag at athletwyr elît a'r hyn sy'n cael ei roi i gymunedau i geisio cael pobl yn fwy heini.

Dywedodd Mr Griffiths bod ysgolion gweithgar iawn, ond ei fod eisiau gweld pob ysgol yn cynnig cyfleoedd a chyfleusterau.