Gwasanaeth coffa er cof am bysgotwyr aeth ar goll

Daniel Willington
Image caption Mae corff Daniel Willington yn parhau heb ei ddarganfod

Cafodd gwasanaeth coffa yn cael ei gynnal yn Aberdaugleddau er cof am ddau bysgotwr lleol aeth ar goll ym mis Ebrill.

Aeth Gareth Willington, 59 oed, a'i fab Daniel, 32, ar goll ar ôl i'w cwch - yr Harvester - suddo oddi ar Benrhyn Dewi.

Dim ond corff y tad sydd wedi cael ei ganfod, ac mae'r chwilio am y mab wedi dod i ben.

Cafodd y gwasanaeth ei gynnal ger cerflun Teyrnged Pysgotwr yn Aberdaugleddau.

Image copyright Archie Harris
Image caption Fe wnaeth cwch y tad a mab - yr Harvester - suddo ar ôl taro creigiau o dan y dŵr