Blwyddyn arall gydag Abertawe i Leon Britton

Leon Britton Image copyright Getty Images

Mae capten Abertawe, Leon Britton wedi arwyddo estyniad o flwyddyn i'w gytundeb gyda'r clwb er mwyn ei gadw yno nes 2018.

Bydd y chwaraewr canol cae yn dathlu'i ben-blwydd yn 34 fis nesaf, ac mae wedi chwarae 514 o weithiau dros yr Elyrch ers symud yno am y tro cyntaf yn 2002.

Cafodd Britton ei enwi'n gapten ar y clwb yn ddiweddar wedi i Ashley Williams ymuno ag Everton.

Dywedodd mai hwn oedd un o'r "cytundebau hawsaf" iddo arwyddo erioed, er iddo gydnabod nad yw wastad yn disgwyl bod yn ddewis cyntaf yn nhîm Francesco Guidolin bellach.

"Dw i wedi siarad â'r rheolwr am hynny a dw i'n deall hynny," meddai Britton wrth wefan y clwb.

"Rydw i wedi dweud fy mod i'n barod i ddechrau gemau, dod ymlaen neu dim ond fod yn rhan o'r garfan a chynorthwyo'r chwaraewyr eraill."