Dynes yn marw mewn gwrthdrawiad yng Nghaerdydd

damwain Adamsdown Image copyright Alison Ling

Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i farwolaeth dynes mewn gwrthdrawiad yng Nghaerdydd am 00:35 fore dydd Llun.

Bu farw dynes 22 oed oedd yn gyrru car BMW du ar ôl iddo daro yn erbyn bloc o fflatiau yn ardal Adamsdown.

Mae menyw arall 21 oed oedd yn teithio yn y car yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol.

Mae pedwar person wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad. Mae'r heddlu'n apelio am dystion gan ofyn i bobl ffonio 101 a dyfynnu'r cyfeirnod 1600319903.