Cyhuddo dyn o lofruddio dynes ifanc yng Nghaerdydd

ely road Image copyright Google
Image caption Bu farw Xixi Bi, 24 oed, mewn eiddo ar Heol Ely yn Llandaf

Mae dyn 23 oed wedi ei gyhuddo o lofruddio ei gariad yng Nghaerdydd.

Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i eiddo yn Heol Ely yn Llandaf ddydd Gwener 19 Awst wedi adroddiadau bod menyw yn cael trafferth anadlu.

Bu farw Xixi Bi, 24 oed, yn y fan a'r lle.

Cafodd Jordan Mathews ei arestio a'i gyhuddo o lofruddiaeth.

Fe wnaeth ymddangos o flaen Llys Ynadon Caerdydd ddydd Llun i gadarnhau ei enw a'i gyferiad.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa a bydd yn ymddangos o flaen Llys y Goron Caerdydd ddydd Mawrth.

Cafodd Ms Bi ei magu yn Nanjing yn China cyn mynd i Rydychen i astudio pan oedd yn ei harddegau. Yn ddiweddarach fe aeth i Brifysgol Caerdydd.

Mae ei theulu, sy'n byw yn China, wedi cael eu hysbysu ac mae ymchwiliad yr heddlu yn parhau.