Prynu darlun £2m i gastell ym Mhowys

Darlun Image copyright Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Mae darlun gwerthfawr o'r cyfnod Jacobeaidd wedi ei brynu er mwyn sicrhau ei fod yn parhau yn ei gartref gwreiddiol yng nghanolbarth Cymru.

Cafodd y darlun o'r ail ganrif ar bymtheg o Edward Herbert, sef y Barwn Herbert o Cherbury, ei beintio mewn dyfrlliw gan Isaac Oliver.

Fe fydd yn cael ei adnewyddu cyn cael ei arddangos yng Nghastell Powis, ger y Trallwng.

Cafodd ei brynu am £2.1m gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda chymorth y Gronfa Gelf a'r Gronfa Treftadaeth Goffaol Genedlaethol.

Mae'r darlun yn dangos Herbert, oedd yn fardd ag athronydd, gyda'i ben ar ei law wrth iddo orwedd ger afon fechan sy'n rhedeg drwy goedwig.

Mae ganddo darian a chalon ar dân arni, ac mae'n debyg fod y darlun yn adlewyrchu ei fywyd fel rhamantydd sifalraidd.

Image copyright Val Vannet/Geograph
Image caption Castell Powis

Cafodd y darlun ei roi ar werth gan unigolyn ac fe gafodd ei brynu gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda chymorth rhoddion ariannol.

Fe gafodd y darn ei greu gan Isaac Oliver rhwng 1602 a 1617, ac mae'n mesur 23cm wrth 19cm.

Dywedodd Justin Albert, Cyfarwyddwr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol dros Gymru, fod yr elusen yn falch iawn i gadw'r darlun "rhyfeddol", sydd o bwys Cymreig, Prydeinig ag Ewropeaidd.

Ychwanegodd fod y darlun mewn cyflwr bregus ac fe fyddai'n cael ei adnewyddu cyn cael ei roi ar fenthyg i amgueddfeydd, cyn dychwelyd i Gastell Powis.