Prop y Gweilch Ryan Bevington yn symud i Fryste

Ryan Bevington Image copyright Huw Evans picture agency

Mae prop y Gweilch, Ryan Bevington, wedi symud i glwb Bryste ar gytundeb dwy flynedd.

Fe wnaeth y blaenwr 27 oed chwarae 112 o gemau dros y rhanbarth o Gymru ers ei gêm gyntaf yn 2008.

Dim ond 15 gêm y chwaraeodd yn y ddau dymor diwethaf fodd bynnag, a hynny oherwydd anafiadau.

Mae hefyd wedi ennill 13 cap dros Gymru ers 2011.

"Mae Ryan yng nghanol cyfnod gorau ei yrfa ac mae wedi chwarae ar y lefel uchaf," meddai cyfarwyddwr rygbi Bryste, Andy Robinson.

Ychwanegodd Bevington ei fod yn "edrych ymlaen yn fawr" at gynrychioli Bryste, sydd newydd sicrhau dyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr.

Mae'r Cymry eraill sydd yng ngharfan Bryste ar gyfer y tymor newydd yn cynnwys y canolwr Gavin Henson, y clo Ian Evans, y mewnwyr Rhodri Williams a Martin Roberts, a'r cefnwr Jordan Williams.