Cofio 80 mlynedd ers llosgi'r Ysgol Fomio ym Mhen Llŷn

Lewis Valentine, Saunders Lewis a DJ Williams
Image caption Lewis Valentine, Saunders Lewis a DJ Williams

Ar 8 Medi 1936, rhoddodd dri ymgyrchydd iaith Ysgol Fomio ym Mhen Llŷn ar dân mewn safiad sy'n cael ei gofio hyd heddiw.

Penderfynodd dri o lenorion mwyaf blaenllaw Cymru losgi'r 'Gwersyll Bomio' ar ffermdy Penyberth ger Pwllheli. Roedd y safle yn cael ei greu fel rhan o baratoadau Prydain ar gyfer yr Ail Ryfel Byd.

Saunders Lewis, llywydd Plaid Genedlaethol Cymru, y Parchedig Lewis Valentine, a'r llenor DJ Williams oedd y tri. Fe gawson nhw eu carcharu am naw mis ond eu croesawu yn ôl i Gymru gan dorf o 15,000 o bobl.

Ond pa mor ddylanwadol fu'r weithred mewn gwirionedd? Beth oedd yr effaith ar deulu Saunders Lewis? Oes yna debygrwydd rhwng Penyberth a'r hyn sy'n digwydd yn Wylfa, Ynys Môn heddiw? Aeth Cymru Fyw i ymchwilio...

Ar 7 Medi 1936, daeth Saunders Lewis, Lewis Valentine a DJ Willliams at ei gilydd yng ngwesty'r Victoria ym Mhorthaethwy ar Ynys Môn i drafod y trefniadau terfynol.

Roedd y tri yn aelodau blaenllaw o'r blaid sy'n cael ei hadnabod bellach fel Plaid Cymru. Roedden nhw wedi'u cythruddo gan fwriad i greu canolfan i'r Llu Awyr yn Llŷn lle roedd modd ymarfer bomio o'r awyr ar dargedau yn y môr.

Roedd Saunders Lewis yn gwrthwynebu'r Ysgol Fomio ym Mhenyberth am sawl rheswm, ond yn bennaf ar sail cenedlaetholdeb. Roedd o'n ofni bod y llywodraeth am droi un o gartrefi llenyddol a diwylliannol Cymru i le fyddai'n hyrwyddo ffordd barbaraidd o ryfela.

Roedd yr awdurdodau eisoes wedi ceisio codi safle tebyg yn Northumberland ac yn Dorset ond cafodd y cynlluniau eu gwrthod ar sail dadleuon amgylcheddol yn bennaf.

Ar ôl misoedd o brotestio heddychlon gan yr eglwysi, capeli ac ysgolion yn ymbil ar y llywodraeth i ail-ystyried, doedd dim yn tycio a cafodd y ffermdy hanesyddol ei chwalu.

Felly penderfynodd Saunders Lewis, Lewis Valentine a DJ Williams i weithredu'n uniongyrchol.

Cartref diwylliant Cymraeg

Lluniodd y tri lythyr a'i gyfeirio at y Prif Gwnstabl yn cyfaddef eu gweithred ac yna draw â nhw i Lŷn, gan adael copi o'u llythyr o esboniad yn swyddfa'r Blaid yng Nghaernarfon.

Yn ei gar, roedd gan Saunders 10 galwyn o betrol a thair chwistrell efydd.

Ffermdy cyffredin oedd Penyberth i'r awdurdodau Prydeinig, ond i'r Cymry diwylliedig roedd ganddo le arbennig fel plasdy a fu'n gartref i lenyddiaeth a diwylliant Cymraeg.

Roedd hanes mawr i'r lle. Yma oedd "un o aelwydydd hanfodol y diwylliant Cymraeg" yn ôl Saunders Lewis, ac yma y cafodd awdur 'Y Drych Cristianogawl' - y llyfr cyntaf i gael ei gyhoeddi yng Nghymru - Robert Gwyn ei eni.

Cafodd is-bwyllgor cyfrinachol ei sefydlu yn Ionawr 1936 i drefnu'r dinistr, ond Saunders Lewis ei hun wnaeth y trefniadau ymarferol, rhag i Blaid Cymru fel corff gael ei gyhuddo o gynllwyn.

Aeth yr Ysgol Fomio yn wenfflam ar 8 Medi 1936. Wnaeth 'Y Tri' ddim cuddio mai nhw oedd yn gyfrifol.

Cafodd pamffled enwog 'Paham y Llosgasom yr Ysgol Fomio' (1937) ei gyhoeddi gan Blaid Cymru i ddathlu rhyddhau y triawd o'r carchar ac mae anerchiad gwleidyddol Saunders Lewis yn y llyfryn yn cael ei ystyried fel un o'r pwysicaf yn hanes Cymru.

Ynddo, mae'n cyfiawnhau'r weithred: "Ni wnaethom derfysg. Nid apeliasom erioed at bobl wyllt.

"Pe dymunem ddilyn dulliau trais a dulliau herio a pherygl, y dulliau y gorfodir cenhedloedd bychain yn aml i'w dilyn oherwydd gormesu'n anioddefol arnynt, hawdd a fuasai i ninnau, arweinwyr y Blaid Genedlaethol, ofyn i rai o fechgyn ifainc eiddgar a brwdfrydig y Blaid danio'r Gwersyll Bomio a dianc heb i neb eu gweld na'u dal. Buasai'n hawdd, yn enwedig gyda'r math o wyliwr nos a oedd ym Mhenyberth. Ond buasai hynny'n gychwyn i gyfnod o herio ac ymosod."

Image copyright Alan Fryer
Image caption Mae cofgolofn i 'Dri Penyberth' ger y tŷ heb fod ymhell o Benrhos yn Llŷn a thua dwy filltir o Bwllheli ar yr A499

Beirniadu Eisteddfod o'r carchar

Un o'r llyfrau mwyaf cynhwysfawr ar yr hanes yw 'Cythral o Dân' a gafodd ei gyhoeddi pum mlynedd yn ôl i nodi 75 mlynedd ers y llosgi.

Dywedodd awdur y llyfr, Arwel Vittle: "Ar ôl holl firi'r achos a'r carcharu aethon nhw ddim ymlaen efo sefydlu maes awyr yno oherwydd fod niwl môr Pen Llŷn yn golygu ei bod hi'n anodd iawn hedfan awyrennau yn effeithiol. Mater ymarferol o ran y Llu Awyr oedd hynny.

"Roedd yr effaith byr-dymor yn ddramatig," ychwanegodd. "Doedd neb wedi gweithredu yn enw Cymru a wedi mynd i'r carchar ers dyddiau [Owain] Glyndŵr. Roedd 'na brotestiadau fel Merched Beca a Rhyfel y Degwm wedi bod, ond dim byd fel hyn ers cof."

Aeth y tri i'r llys yng Nghymru i gychwyn, ond methodd rheithgor o Gymry Cymraeg yng Nghaernarfon gytuno ar benderfyniad. Ond cawson nhw eu dedfrydu i garchar yn Wormwood Scrubs mewn llys yn Llundain.

Ceisiodd y tri gyflwyno eu hachos trwy gyfrwng y Gymraeg yn y llys Seisnig ond i ymateb gelyniaethus iawn. Gwrthododd y tri roi tystiolaeth yn Saesneg.

Llwyddodd hyn i godi cwestiynau am statws cyfreithiol yr iaith Gymraeg gan sbarduno'r ymgyrch dros ddiogelu'r iaith yng Nghymru.

"Roedd 'na effaith uniongyrchol ar ddefnyddio'r Gymraeg yn y llysoedd barn," eglurai Arwel Vittle.

"Arweiniodd hynny at ddeddf yn 1942 lle roedd hawl cyfyngedig i bobl ddefnyddio'r Gymraeg yn y llys."

Yn y carchar, mae'n debyg fod y tri wedi gwrando ar ddarllediadau'r BBC o ail ddrama Gymraeg Saunders Lewis, 'Buchedd Garmon'.

O du ôl i furiau'r carchar y gwnaeth DJ Williams ei waith fel beirniad yn Eisteddfod Genedlaethol Machynlleth yn 1937 hefyd.

Image copyright Paul Japheth
Image caption Capel Penrhos, ger hen safle'r ysgol fomio, yn y niwl nodweddiol yn Llŷn

Wylfa'r cyfnod?

Fe achosodd y digwyddiad rwyg difrifol yn y gymuned leol. Roedd deiseb gyda 5,000 o lofnodion arni yn cefnogi gweithred Lewis, Valentine a Williams.

Ond yn y dref ei hun ym Mhwllheli, roedd pethau'n wahanol.

Roedd trigolion y dre'n dioddef yn enbyd o ddirwasgiad y 1930au ac roedd yr Ysgol Fomio yn cynnig rhywbeth oedd yn brin - gwaith. Ond dydi Arwel Vittle ddim mor siŵr.

"Roedd y swyddi a'r budd economaidd yn cael eu defnyddio fel abwyd gan y llywodraeth i drio cael cefnogaeth yn lleol - mae'r un peth yn digwydd yn Wylfa rŵan," meddai.

"Doedd neb yn gwybod beth fyddai effaith economaidd hir-dymor y peth wedi bod ar yr ardal. Roedd llywodraeth Prydain wedi gwrthod sefydlu safleoedd tebyg yn Lloegr ar sail cadwraeth natur ac ati, felly i'r Cymry ar y pryd roedd hi'n ymddangos fod cadwraeth natur yn bwysicach na diwylliant Cymru."

Er hynny, cafodd gweithred y tri ddylanwad mawr ar un gŵr ifanc o Bwllheli. Roedd Owain Williams yn un o'r tri wnaeth weithredu yn Nhryweryn yn 1963. Cafodd ei garcharu am flwyddyn am fomio trosglwyddydd trydan ar safle'r gronfa ddŵr:

"Nes i droi yn genedlaetholwr yn 10 neu'n 11 oed ac, yn gam neu'n gymwys, ymuno efo Plaid Cymru. Saunders Lewis oedd y rheswm am hynny.

"Wnaeth Penyberth ddeffro rhywbeth ynddo i - deffroad oedd o. Roedd o'n ysgytwad i rhywun i feddwl, yn procio'r meddwl.

"Wrth i mi dyfu fyny mae rhywun yn dod i feddwl a sylweddoli mai ysgolheigion oedd y tri ym Mhenyberth i bob pwrpas. Dydw i ddim yn dweud hynny'n sbeitlyd, ond roedd y tri ohonom ni'n fwy gwerinol. Roedd 'na debygrwydd, ac roedd Penyberth yn drobwynt, ond roedd Tryweryn yn gyfnod gwahanol."

Yn dilyn ei safiad ym Mhenyberth, fe gollodd Saunders Lewis ei swydd fel darlithydd yng Ngholeg y Brifysgol yn Abertawe pan gafodd y tri eu carcharu.

Ymddiswyddodd o lywyddiaeth Plaid Cymru a chefnodd ar fywyd cyhoeddus a throi at ysgrifennu'n llawn amser.

Image caption Cafodd Saunders Lewis ei enwebu am wobr lenyddol Nobel yn 1971. Bu farw yn 1985

Roedd effaith y llosgi yn bellgyrhaeddol ar y teuluoedd, fel eglurai wyres Saunders Lewis, Siwan Jones. "Fe wnaeth y teulu ddiodde'n enbyd," meddai. "Mae pobl yn anghofio hynny. Roedd e wedi colli ei swydd, colli popeth.

"Roedd Nain yn Wyddeles felly doedd hi ddim yn deall pam fod y brifysgol wedi troi yn ei erbyn e. Pan oedd rhywun yn gwneud safiad dros ei wlad yn Iwerddon, roedden nhw'n cael eu canmol. Ond yng Nghymru, fe gollodd e ei swydd.

"Mae'r teulu wedi diodde' tipyn. Roedd Mam yn dweud wrtha i sut yr oedd hi'n cael ei gwawdio yn yr ysgol am fod yn 'jailbird's daughter' ac ati.

"Aeth e i ddarlithio yn Aberystwyth a gaethon nhw loches yno - oni bai am hynny wyddwn i ddim lle fydden nhw wedi mynd."

Ychwanegodd: "Dwi'n cofio Mam yn dweud y stori wrtha i pan oedd Taid (Saunders Lewis) yn byw yn y Mwmbwls, ar ôl bod yn y carchar, ac roedd y wasg yn ei ddilyn i bob man. Unwaith, pan oedd e eisiau mynd allan i siopa neu rywbeth, roedd yn rhaid iddo wisgo i fyny fel menyw pan oedd yn gadael y tŷ! Doedd hi ddim yn hawdd iddyn nhw."

Ar ôl i'r tri gael eu rhyddhau o'r carchar ar 27 Awst 1937 roedd torf o tua 15,000 yng Nghaernarfon yn eu croesawu 'nôl i Gymru ac hyd heddiw mae'r tri yn arwyr yn llygaid llawer.

"Mae'n adlewyrchiad o pha mor ddramatig oedd y peth," ychwanegodd Arwel Vittle. "Doedd y fath beth erioed wedi digwydd o'r blaen.

"Be' oedd yn bwysig i Saunders Lewis oedd bod yna achos troseddol yn erbyn y wladwriaeth Brydeinig, ac fod hyn yn atgyfnerthu bodolaeth Cymru fel cenedl wleidyddol."

Image copyright Jonty Storey
Image caption Roedd gŵyl Wakestock yn cael ei chynnal ar dir Penyberth am flynyddoedd tan yn ddiweddar

Ychwanegodd Siwan Jones: "Roedd safiad y tri yn allweddol. Mae rhai pobl yn trio bychanu'r peth a cheisio dweud nad oedd e mor bwysig â hynny, ond does ond eisiau i chi edrych ar y rali yng Nghaernarfon - doedd pethau fel hynny ddim yn digwydd yn aml."

Colli cyfle

Ond a fu chwyldro gwleidyddol yn dilyn hyn?

Er fod cylchrediad misolyn y Blaid - 'Y Ddraig Goch' - wedi cynyddu o ddwy fil yn syth wedi'r llosgi, mae'n debyg nad oedd dylanwad y llosgi yn y tymor byr mor ddu a gwyn.

Meddai Arwel Vittle: "Yn syth ar ôl hynny fe fethodd y Blaid sefydlu syniadaeth mewn gwirionedd. Tra roedd y tri yn y carchar, doedd 'na fawr ddim yn digwydd 'nôl adre'. Roedd 'na fethu cyfle yn y tymor byr.

"Ond roedd rhai o aelodaeth y Blaid wedi sefyll yn yr Ail Ryfel Byd fel gwrthwynebwyr cydwybodol ar sail cenedlaetholdeb yn hytrach na heddychiaeth, ac oni bai am be' ddigwyddodd ym Mhenyberth fyset ti heb gael hynny.

"Roedd y digwyddiad wedi gosod cynsail o ran gweithredu dros Gymru a'r Gymraeg. Dyna yw'r arwyddocâd pennaf 'falle."

Image copyright Plaid Cymru
Image caption Cyfarfod prin rhwng 'Y Tri' mewn aduniad rhai blynyddoedd wedi'r Tân yn Llŷn

Oes lle i'r bennod gythryblus hon yn ein hysgolion ni felly? "Fyset ti'n gobeithio y bydd mwy o hanes Cymru yn cael ei ddysgu yn yr ysgolion, ac mae hon yn bennod bwysig yn hanes y mudiad cenedlaethol yng Nghymru," meddai Arwel Vittle. "Dylai fod o'n rhan o unrhyw astudiaeth am hanes Cymru.

"Bysech chi'n gobeithio fyddai rhywbeth fel hyn ddim yn digwydd eto ond mae'n sefyllfa wleidyddol hollol wahanol erbyn hyn."

Mae yna nifer o weithiau llenyddol gafodd eu hysbrydoli gan y digwyddiadau ym Mhenyberth, ymhlith yr enwocaf mae cân Plethyn - 'Tân yn Llŷn' - a'r darn barddoniaeth gan Waldo Williams i'w gyfaill DJ.

Cafodd pamffled arall, 'Coelcerth Rhyddid' ei ddosbarthu i'r cefnogwyr a'r cyhoedd ar 27 Awst 1937.

Ond beth am Penyberth ei hun? Cafodd y tir ei werthu a daeth yn eiddo i amaethwyr.

Erbyn hyn mae'r ysgol fomio wedi hen fynd hefyd i wneud lle i faes carafannau a chwrs golff naw twll. Cafodd gŵyl gerddoriaeth Wakestock ei chynnal ar y tir am rai blynyddoedd hefyd.

Ond mae'r gofeb sydd yno hyd heddiw yn goffa parhaol o'r aberth wnaeth tri dyn dros Gymru 80 mlynedd yn ôl.

Straeon perthnasol