Llofruddiaeth Caerdydd: Dyn wedi ymddangos yn y llys

ely road Image copyright Google
Image caption Bu farw Xixi Bi, 24 oed, mewn tŷ ar Heol Ely yn Llandaf

Mae dyn wedi ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd wedi ei gyhuddo o lofruddio ei gariad yn y brifddinas.

Cafodd corff Xixi Bi, 24 oed, ei ddarganfod mewn tŷ ar Heol Trelai yn Llandaf ar ddydd Gwener 19 Awst wedi adroddiadau bod dynes yn cael trafferth anadlu.

Roedd Jordan Mathews, 23 oed o Gaerdydd, gerbron y llys ddydd Mawrth ac fe wnaeth gadarnhau ei enw.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa tan bod gwrandawiad ple a rheoli achos mewn llys ar 25 Hydref.

Cafodd Ms Bi ei magu yn Nanjing yn China cyn mynd i Rydychen i astudio pan oedd yn ei harddegau. Yn ddiweddarach fe aeth i Brifysgol Caerdydd.