Dechrau siomedig i Forgannwg

meschede Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Craig Meschede gipiodd unig wiced Morgannwg ond methodd gyda'r bat

Fe gafodd Morgannwg ddechrau siomedig i'w gêm ym Mhencampwriaeth y Siroedd yn erbyn Sussex yng Nghaerdydd.

Wedi i'r ymwelwyr alw'n gywir a dewis bowlio, fe aeth eu hymosod drwy fatwyr Morgannwg fel cyllell drwy fenyn ar ddechrau'r batiad.

Ar un cyfnod roedd Morgannwg yn 56 am 5 wiced cyn i Graham Wagg (57), Mark Wallace (61) ac Owen Morgan (32) sefydlogi pethau.

Pan aeth y wiced olaf i lawr roedd y tîm cartref wedi cyrraedd cyfanswm gweddl barchus o 252.

Ond yna daeth batwyr Sussex i'r llain wrth i'r wiced wella, a doedd dim yn tycio i fowlwyr Morgannwg.

Daeth un wiced i Craig Meschede cyn i'r chwarae ddod i ben am y diwrnod, ond erbyn hynny roedd Sussex wedi cyrraedd cyfanswm o 111, gan eu gadael 141 y tu ôl i Forgannwg gyda naw wiced yn sefyll.

Bydd angen wicedi cynnar ar Forgannwg ddydd Mercher os nad ydyn nhw am wynebu diffyg enfawr yn y batiad cyntaf.

Morgannwg v. Sussex - Pencampwriaeth y Siroedd, Adran 2:

Morgannwg (batiad cyntaf) = 252

Sussex (batiad cyntaf) = 111 am 1