David Vaughan yn ymddeol o bêl-droed rhyngwladol

dave vaughan

Mae chwaraewr canol cae Cymru David Vaughan wedi ymddeol o bêl-droed rhyngwladol.

Ni fydd enw Vaughan, sy'n 33 oed, yn cael ei gynnwys pan fydd Chris Coleman yn cyhoeddi enwau carfan Cymru ar gyfer gêm agoriadol ymgyrch rhagbrofol cwpan y byd yn erbyn Moldova ym mis Medi, ddydd Mercher.

Er iddo fod yn rhan o'r garfan, ni chwaraeodd Vaughan yn ystod rowndiau terfynol Euro 2016.

Fe enillodd 42 o gapiau dros ei wlad, ar ôl gwneud ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru yn erbyn yr Unol Daleithiau yn 2003.

Mae Vaughan yn wreiddiol o dref Abergele yng Nghonwy.