Teulu yn rhoi teyrnged i ddynes ifanc o Gaerdydd fu farw

sophie Image copyright Llun teulu

Mae teulu dynes ifanc o Gaerdydd gafodd ei lladd mewn gwrthdrawiad yn y brifddinas wedi rhoi teyrnged iddi.

Bu farw Sophie Taylor, 22 oed o Landaf, yn y digwyddiad yn oriau mân fore Llun yn ardal Adamsdown.

Roedd hi'n gyrru BMW 1 Series pan wnaeth y car daro yn erbyn bloc o fflatiau yno.

Mewn datganiad, dywedodd teulu Ms Taylor: "Rydym wedi colli ein tywysoges brydferth Sophie. Bydd hi'n aros yn ein calonnau am byth. Bydd colled fawr ar dy ôl."

Mae dyn 21 oed, oedd yn teithio yn y BMW, mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd.

Mae pedwar o bobl yn parhau yn y ddalfa ac wedi eu harestio ar amheuaeth o ddynladdiad.

Mae ymchwiliad yr heddlu yn parhau ac mae swyddogion yn apelio am dystion.