Peterborough 1 - 3 Abertawe

Oliver McBurnie a Jay Fulton Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Oliver McBurnie (chwith) yn dathlu gyda Jay Fulton

Fe sgoriodd yr Albanwr ifanc, Oliver McBurnie, ddwy gôl yn ei gêm gyntaf i Abertawe, wrth i'r Elyrch guro Peterborough yn rhwydd.

Gwnaeth Francesco Guidolin 10 newid i'r tîm gollodd yn erbyn Hull ddydd Sadwrn ar gyfer yr ornest yn ail rownd Cwpan Cynghrair Lloegr.

Ond roedd yn berfformiad hyderus gan Abertawe, oedd 3-0 ar y blaen ar yr hanner. Jay Fulton sgoriodd gyntaf gyda pheniad, cyn i McBurnie rwydo ddwy waith mewn dau funud.

Rhoddodd gôl Da Silva Lopes obaith i Peterborough ond y Elyrch sydd yn yr het ar gyfer y drydedd rownd.