Coleman yn cyhoeddi carfan Cymru cyn gêm Moldova

carfan cymru Image copyright Getty Images

Mae Chris Coleman wedi cyhoeddi ei garfan ar gyfer gêm ragbrofol gyntaf Cymru yn yr ymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd 2018.

Bydd y tîm cenedlaethol yn wynebu Moldova yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 5 Medi.

Hon fydd y gêm gyntaf ers colli yn erbyn Portiwgal yn rownd gynderfynol Euro 2016.

Nid yw Aaron Ramsey wedi cael ei ddewis, wedi iddo gael ei anafu wrth chwarae i'w glwb, Arsenal.

Ni fydd Johnny Williams yn chwarae ar ôl iddo yntau anafu ei ffêr, ac fe gyhoeddodd David Vaughan ei ymddeoliad o bêl-droed rhyngwladol hefyd ddydd Mercher.

Yn camu i'r bwlch fe fydd Emyr Huws, Paul Dummett a Tom Lawrence.

Dywedodd Coleman am Ramsey: "Pan mae chwaraewr cystal â Aaron, os nad yw yn y tîm fe fyddwch yn ymwybodol o hynny.

"Does neb a all gymryd ei le, mae'n cael effaith enfawr arnom ni. Mae e'n cael effaith anferth ac mae e'n chwaraewr gwych. Mae'n golled i unrhyw dîm."

Y garfan yn llawn:

Golwyr

  • Wayne Hennessey
  • Owain Fôn Williams
  • Danny Ward

Amddiffynwyr

  • Chris Gunter
  • Neil Taylor
  • Ben Davies
  • James Chester
  • Ashley Williams
  • Jazz Richards
  • James Collins
  • Paul Dummett

Canol cae

  • Joe Allen
  • Andy King
  • David Edwards
  • Joe Ledley
  • Emyr Huws
  • Tom Lawrence

Ymosodwyr

  • Hal Robson-Kanu
  • Gareth Bale
  • George Williams
  • Sam Vokes
  • Simon Church
  • David Cotterill