Car yn taro bloc o fflatiau yn Abertawe

Car Abertawe

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal y Sgeti yn Abertawe tua amser cinio ddydd Mercher wedi i gar daro bloc o fflatiau.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: "Cawsom ein galw tua 13:00 yn dilyn adroddiadau fod car wedi taro bloc o fflatiau ar Ffordd y Gwyr yn y Sgeti.

"Cafodd ambiwlans brys, criw o'r gwasanaeth gofal brys ac aelodau o dîm Ymateb Ardaloedd Peryglus eu hanfon yno, a chafodd dau o bobl eu cludo i Ysbyty Treforys.

"Cafodd un wraig driniaeth yn y fan a'r lle, ond doedd dim angen triniaeth ysbyty arni."