Cwis: Cartref pwy?

"Does unman yn debyg i gartre'." Dim ots faint yr ydym ni'n mwynhau ein gwyliau, mae'n braf bod nôl!

Wrth i chi baratoi am ragor o brysurdeb yn y gwaith neu'r ysgol, fedrwch chi ddyfalu pa enwogion oedd yn byw yn y cartrefi yma? Atebion ar waelod y dudalen.


Image copyright AP
Image caption Cae'r Gors, Rhosgadfan

1) Fuodd y ferch fach fu'n byw yma yn chwarae yn y caeau cyfagos efo Deian a Loli. Pwy oedd hi?

(a) Betsi Cadwaladr

(b) Dr Kate Roberts

(c) Angharad Tomos


Image caption Pwy gafodd ei fagu yma?

2) Mae'r gŵr fu'n byw yma ym mhlwy Llanfair-ar-y bryn ger Llanymddyfri yn dal i gael ei gysylltu efo enw'r fferm. Ei enw ac enw'r fferm?

(a) William Williams

(b) Evan Evans

(c) Robert Roberts


Image caption Stryd Goodman, Llanberis

3) A oedd y bachgen bach oedd yn byw yma'n gweddïo na fyddai'n gorfod gweithio yn y chwarel? Pwy oedd o?

(a) Islwyn Ffowc Elis

(b) Caradog Prichard

(c) T Rowland Hughes


Image copyright AFP
Image caption Dolwar Fach, Llanfihangel-yng-Ngwynfa

4) 'Wele'n sefyll rhwng y myrtwydd' yw un o'n hemynau mwyaf adnabyddus. Ond pwy oedd ei hawdur fu'n byw yma dros 200 mlynedd yn ôl?

(a) Ann Griffiths

(b) Dilys Thomas

(c) Gwen Davies


Image copyright Llywelyn 2000
Image caption Y Pentan, Yr Wyddgrug

5) Pwy fu'n teilwrio straeon ar safle'r dafarn hon?

(a) Sion Eirian

(b) Daniel Owen

(c) W J Gruffydd


Image caption Yr Ysgwrn, Trawsfynydd

6) Cafodd llenor enwog ei fagu yn yr hen ffermdy hwn. Pwy?

(a) D J Williams

(b) R Williams Parry

(c) Hedd Wyn


Image caption Ty'n y Ddôl, Llanfihangel-y-pennant

7) Dim ond adfeilion sydd ar ôl o gartre'r ferch fuodd ar daith gofiadwy. Byddai bws i'r Bala wedi bod yn handi! Pwy oedd hi?

(a) Siân Owen

(b) Mary Jones

(c) Margaret Evans


Image caption Y Lasynys Fawr, Harlech

8) Gwyched, hyfryded! Mae cartref un o lenorion mwyaf Cymru wedi ei adnewyddu. Pwy oedd yn cael breuddwydion digon od yma?

(a) T H Parry Williams

(b) Ellis Wynne

(c) Gerallt Lloyd Owen


Image caption Tŷ Mawr, Wybrnant

9) Cafodd un o brif gymwynaswyr yr iaith Gymraeg ei eni yma. Oedd o'n cyfri' defaid cyn mynd i gysgu?

(a) Yr Esgob William Morgan

(b) William Salesbury

(c) Llywarch Hen


Atebion

(1) Yr awdur Dr Kate Roberts, buodd hi'n byw yma pan yn blentyn

(2) Yr emynydd William Williams, Pantycelyn fu farw yma yn 1791

(3) Y Prifardd T Rowland Hughes, awdur 'Y Chwalfa', 'O law i law' a'r emyn enwog 'Dwy law yn erfyn'

(4) Yr emynydd Ann Griffiths gafodd ei geni yma yn 1776

(5) Y nofelydd Daniel Owen, awdur 'Rhys Lewis, 'Enoc Huws' a nifer o nofelau poblogaidd eraill yn y G19

(6) Hedd Wyn. Roedd yn fugail yma cyn iddo gael ei ladd ym mrwydr Passchendaele yn y Rhyfel Byd Cyntaf

(7) Yn 1800 bu'n rhaid i Mary Jones gerdded 26 milltir i'r Bala i brynu'r Beibl

(8) Mae 'Gweledigaetheu y Bardd Cwsc' gan Ellis Wynne, gafodd ei gyhoeddi yn 1703, yn cael ei ystyried yn un o glasuron rhyddiaith yr iaith Gymraeg

(9) Yma y cafodd yr Esgob William Morgan ei eni. Yn ddiweddarach aeth ati i gyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg. Gorffennodd y gwaith yn 1588