Addysg Cymru yn torri ei chwys ei hun?

Ein Gohebydd Addysg, Bethan Lewis, sydd wedi bod yn edrych ar y system addysg yng Nghymru a Lloegr a hynny ar drothwy canlyniadau TGAU.

Mae addysg - o bosib yn fwy nag unrhyw faes arall yng Nghymru wedi torri ei chwys ei hun o'r blynyddoedd cyntaf.

Cafwyd gwared ar brofion cenedlaethol a thablau cynghrair ysgolion oedd yn boblogaidd ar y pryd. Ond mae nifer erbyn hyn yn credu i hynny fynd law yn llaw â dirywiad ym mherfformiad ein pobol ifanc.

Dysgu trwy chwarae oedd ffocws y cynllun radical newydd ar gyfer addysgu ein plant ifancaf.

Ac wrth i fwy o ysgolion academi ymddangos yn Lloegr, glynodd Cymru'n dynn at addysg gyfun.

Mae 'na gwricwlwm newydd sbon ar y gorwel hefyd a diwygiadau sylfaenol i'r ffordd mae athrawon yn cael eu hyfforddi.

Ond ar drothwy canlyniadau TGAU, y newidiadau i gymwysterau fan hyn a dros y ffin sydd flaenllaw wrth ystyried systemau addysg sydd yn datblygu'n fwyfwy gwahanol.

Yn 2012, daeth adolygiad o gymwysterau 14 i 19 oed i'r casgliad ei bod hi'n bryd eu diweddaru i ateb anghenion pobol ifanc Cymru, gan roi mwy o bwyslais ar asesu rhifedd a llythrennedd.

Doedd hynny ddim yn golygu cael gwared ar Safon Uwch na TGAU - mae'r rheini'n parhau.

Ond llynedd, dechreuwyd dysgu chwe chwrs TGAU newydd sbon, a bydd y cyrsiau newydd eraill yn cael eu cyflwyno dros y ddwy flynedd nesa.

Y newid mwyaf trawiadol yw cyflwyno dau bwnc Mathemateg: Mathemateg a Mathemateg - Rhifedd.

Fe ddechreuwyd dysgu'r rhain ym mis Medi gyda chymwysterau Saesneg Iaith a Llenyddiaeth a Chymraeg Iaith a Llenyddiaeth gyda chynnwys newydd.

Arholiadau ar gyfer yr 'hen' bynciau gafodd eu cynnal yn gynharach yn yr haf ac fe fydd y canlyniadau'n cael eu cyhoeddi ddydd Iau.

Fe fydd strwythur a chynnwys gwahanol y cymwysterau yn ystyriaeth wrth geisio cymharu gyda chanlyniadau Lloegr yn y dyfodol.

Ond ar yr un pryd, mae'r pwyslais ar gyflwyno'r cymwysterau fel rhai cadarn sydd yn gyfwerth â rhai Lloegr yn ddadl dros barhau i edrych ar gyrhaeddiad dros y ffin.

Serch hynny, bydd y newid flwyddyn nesaf i'r ffordd mae Lloegr yn rhoi graddau - o lythrennau i rifau - yn gwneud unrhyw fath o gymhariaeth syml yn amhosib.

Mae Cymru yn parhau i ddefnyddio A* i G ond 9 i 1 fydd hi yn Lloegr, gyda 9 fel y radd uchaf.

Sut felly bydd cymharu canran y myfyrwyr sydd wedi pasio?

Hyd yn oed eleni a dros y blynyddoedd diwethaf, rhaid defnyddio gofal wrth asesu'r ffigyrau yn bennaf achos bod canran uwch o fyfyrwyr Cymru yn sefyll eu harholiadau yn gynnar ac mae hynny'n gallu effeithio ar y data.

Ond flwyddyn nesaf y daw'r newid mawr yn ôl Rebecca Williams, Swyddog Polisi Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC):

"Bydd cymharu perfformiad blynyddoedd cynt o fewn Cymru, yn ogystal â gwledydd eraill y Deyrnas Gyfunol yn mynd yn gynyddol anodd a diystyr wrth i'r newidiadau weithio'u ffordd drwy'r system.

"Dros y tair blynedd nesaf, bydd newidiadau pellgyrhaeddol i gymwysterau o ran eu cynnwys, strwythur, dulliau asesu a hyn yn oed y graddau - gyda Chymru a Lloegr yn mynd i gyfeiriadau tra gwahanol.

Image caption Fe fydd hi yn anodd cymharu systemau addysg Cymru a Lloegr am gyfnod meddai Rebecca Williams o UCAC

"Unwaith y bydd gennym brofiad sawl blwyddyn o'r cymwysterau newydd, bydd modd gwneud cymariaethau ystyrlon o fewn Cymru unwaith eto."

Ond, yn y cyfamser, mae'n bosib mai profion rhyngwladol fydd yn cynnig ffordd i fesur cyrhaeddiad disgyblion Cymru, meddai:

"Er gwell, neu er gwaeth - mae'n bosib y bydd mesurau allanol fel PISA yn cynyddu yn eu pwysigrwydd o ran y gallu i roi mesur cymharol o berfformiad myfyrwyr Cymru."

Y broblem mae hynny'n ei gyflwyno i'r Llywodraeth ac eraill ym myd addysg yw bod Cymru ar waelod y tabl Prydeinig.

Ac mae'r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, wedi dweud nad ydy hi'n disgwyl gwelliant pan fydd y canlyniadau diweddaraf yn cael eu cyhoeddi ddiwedd y flwyddyn.