Cyhoeddi enw dyn aeth ar goll yn y môr ger Mwnt, Ceredigion

Luke Morton Image copyright Llun Teulu

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw dyn 23 oed aeth ar goll yn y môr oddi ar arfordir Ceredigion.

Cafodd Luke Morton, o ganolbarth Lloegr, ei dynnu i mewn i'r dŵr ger Mwnt ar 7 Awst.

Dywedodd gwylwyr y Glannau bod Mr Morton wedi bod am dro gyda dyn arall pan gafodd ei dynnu i'r dŵr.

Er i'r gwasanaethau brys chwilio amdano am dri diwrnod, nid yw wedi ei ddarganfod.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys bod swyddogion yn dal i chwilio ar hyd yr arfordir yn rheolaidd.

Straeon perthnasol