Achub dyn wedi i'w gar blymio i'r Afon Taf

Car in the water Image copyright Heddlu De Cymru

Mae dyn wedi cael ei gludo i'r ysbyty wedi i'w gar blymio i'r Afon Taf.

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu galw i'r digwyddiad toc wedi 6.00 o'r gloch fore ddydd Iau ym mhentref Glan-bad ger Pontypridd.

Dywedodd y gwasanaeth tân bod lefel y dwr yn llai nag un metr o ddyfnder yn y rhan ble ddisgynnodd y car.

Mae'r dyn wedi cael ei gludo i'r ysbyty, ond does dim gwybodaeth bellach ynglŷn ag unrhyw anafiadau, na chwaith beth oedd achos y digwyddiad.